MônFM Gwobrau Cymunedol Community Awards
EN CY

Gwobrau Cymunedol MônFM 2026

Yn dathlu ein cymuned
Gwobrau Cymunedol MônFM 2026
MônFM Community Awards 2026

Dewiswch gategori

Gofalwr y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn dathlu gofalwr cyflogedig neu ddi-dâl sydd wedi dangos tosturi, ymroddiad a charedigrwydd arbennig wrth gefnogi rhywun arall.

Digwyddiad Cymunedol y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn dathlu digwyddiad ar Ynys Môn neu yng ngogledd Gwynedd sydd wedi dod â phobl at ei gilydd a gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned leol.

Grŵp Cymunedol y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn dathlu grŵp cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yn eu cymuned.

Addysgwr y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn dathlu rhywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau dysgwyr.

Codwr Arian y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn dathlu unigolyn neu grŵp sydd wedi dangos ymrwymiad arbennig i godi arian at elusen neu achos da.

Gwobr Treftadaeth, Celfyddydau a Diwylliant

Mae’r wobr hon yn dathlu grŵp neu sefydliad sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i dreftadaeth, celfyddydau neu ddiwylliant lleol.

Person Ysbrydoledig y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn dathlu rhywun sy’n ysbrydoli’r rhai o’u cwmpas drwy eu dewrder, eu llwyddiannau neu eu hagwedd gadarnhaol.

Busnes Lleol y Flwyddyn

Mae’r wobr yma yn dathlu busnes annibynnol sy’n mynd gam ymhellach i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y gymuned.

Gwobr Cyfraniad Arbennig i’r Gymraeg

Mae’r wobr hon yn dathlu unigolyn, grŵp neu sefydliad sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r Gymraeg.

Clwb Chwaraeon y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn dathlu tîm/clwb chwaraeon sydd wedi llwyddo, dangos gwaith tîm rhagorol neu wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r gymuned.

Gwobr Arwr Tawel

Mae’r wobr hon yn dathlu rhywun y mae eu caredigrwydd, eu hymroddiad neu eu gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i eraill, yn aml heb gael y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu.

Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn dathlu gwirfoddolwr sy’n rhoi o’u hamser, eu hegni a’u sgiliau i helpu eraill neu gefnogi eu cymuned.

Person Ifanc y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn dathlu person ifanc sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i eraill neu i’w gymuned.